Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 3 - y Senedd
Dyddiad: Dydd Iau, 24 Medi 2015
Amser: 09. - 14.00
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV
yn:
http://senedd.tv/cy/3233
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Christine Chapman AC (Cadeirydd) Peter Black AC Alun Davies AC Janet Finch-Saunders AC Mike Hedges AC Mark Isherwood AC Gwyn R Price AC John Griffiths AC (yn lle Gwenda Thomas AC) Rhodri Glyn Thomas AC |
Tystion: |
Carwyn Jones AC, Y Prif Weinidog Bethan Webb, Llywodraeth Cymru Lesley Griffiths AC, Y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi, Llywodraeth Cymru John Howells, Llywodraeth Cymru Amelia John, Llywodraeth Cymru Jo Salway, Llywodraeth Cymru Leighton Andrews AC, Y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus Owain Lloyd, Llywodraeth Cymru Bon Westcott, Llywodraeth Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Claire Morris (Ail Glerc) Elizabeth Wilkinson (Ail Glerc) Chloe Davies (Dirprwy Glerc) Matthew Richards (Cynghorydd Cyfreithiol) Jonathan Baxter (Ymchwilydd) Rhys Iorwerth (Ymchwilydd) Hannah Johnson (Ymchwilydd) |
Trawsgrifiad
Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod (PDF 478KB) Gweld fel HTML (531KB)
1.1. Estynnodd y Cadeirydd groeso i'r Aelodau a'r cyhoedd i'r cyfarfod.
1.2. Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan Gwenda Thomas AC a Jocelyn Davies AC. Dirprwyodd John Griffiths AC ar ran Gwenda Thomas AC, yn unol â Rheol Sefydlog 17.48.
2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:
· Y Gwir Anrhydeddus Carwyn Jones AC, Prif Weinidog Cymru
· Bethan Webb, Dirprwy Gyfarwyddwr, yr Iaith Gymraeg, Llywodraeth Cymru
· Awen Penri, Pennaeth y Gangen Datblygu Cymraeg Mewn Addysg, Llywodraeth Cymru
2.2 Datganodd Mike Hedges AC y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:
· Mae ei ferch yn mynychu ysgol cyfrwng Cymraeg a sefydliadau ieuenctid sy'n cael arian gan Fenter Iaith. Mae hefyd yn ymwneud â'r Urdd.
2.3 Datganodd Peter Black AC y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:
· Mae'n aelod o awdurdod addysg lleol.
3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:
· Lesley Griffiths AC, y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi
· John Howells, Cyfarwyddwr Tai ac Adfywio, Llywodraeth Cymru
· Amelia John, Dirprwy Gyfarwyddwr, Dyfodol Tecach, Llywodraeth Cymru
· Jane Hutt AC, y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth
· Jo Salway, Dirprwy Gyfarwyddwr, Cyllidebu Strategol, Llywodraeth Cymru
3.2 Datganodd Peter Black AC y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:
· Mae'n gynghorydd lleol.
3.3 Yn ystod y cyfarfod, cytunodd y Gweinidog i
· Ysgrifennu at y Pwyllgor erbyn mis Mawrth 2016 yn rhoi gwybodaeth am ganlyniad gwaith y tasglu yn ystyried:
- sut i wella perfformiad gwasanaethau addasu cartrefi;
- sut i sicrhau bod pob gwasanaeth addasu yn cael ei werthuso'n effeithiol, a pherfformiad pob un yn cael ei fonitro, ac nid dim ond Grantiau Cyfleusterau i'r Anabl.
· Awgrymu bod y Gweinidog Cyfoeth Naturiol yn rhannu gyda'r Pwyllgor unrhyw waith cynllunio a wneir ar hyfywedd tir y comisiwn coedwigaeth mewn cysylltiad â datblygiadau tai.
· Darparu gwybodaeth am faint o dir a ryddhawyd ar gyfer tai yn y ddwy flynedd diwethaf, a faint sy'n debygol o gael ei ryddhau yn y ddwy flynedd nesaf.
4.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.
5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth.
6.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:
· Leighton Andrews AC, y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus
· Owain Lloyd, Dirprwy Gyfarwyddwr, Diwygio Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru
· Bon Westcott, Dirprwy Bennaeth Diogelwch Cymunedol, Llywodraeth Cymru
7.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.
8.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth.
9.1 Trafododd y Pwyllgor yr ymchwiliad i Adolygiad Siarter y BBC.
10.1 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft.